We use cookies and similar tools that are necessary to enable you to make purchases, to enhance your experiences and to provide our services, as detailed in our
Post Cyntaf Roedd hi’n wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru wythnos diwetha a gaethon ni’r cyfle i glywed gan lawer iawn o ddysgwyr am eu bywydau a’u profiadau’n dysgu’r iaith. Dechreuodd yr wythnos fore Llun wrth i Dylan Jones holi Barry Lord o Drefaldwyn ym Mhowys. Cafodd Barry ei ysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg ar ôl bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan aeth hi i ardal Meifod ym Mhowys yn 2015. Ond ydy’r pandemig wedi cael effaith ar ei brofiadau Cymraeg yn y dosbarth a’r tu allan i’r dosbarth?
Eu bywydau a’u profiadau - Their lives and experiences
Cafodd Barry ei ysbrydoli - Barry was inspired
Trefaldwyn - Montgomery
Hyder - Confidence
Pabell - Tent
Yn galonogol iawn - Very encouraging
Anhygoel - Incredible
Cyfathrebu - To communicate
Gan gynnwys - Including
Aled Hughes Barry Lord o Drefaldwyn yn dal i ddysgu ac i ddefnyddio’r Gymraeg er gwaetha’r pandemig. Mae Kai Saraceno yn dod o’r Eidal yn wreiddiol a buodd o’n byw yn y Ffindir ers pan oedd e’n naw oed. Ar hyn o bryd mae’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Dyma i chi glip o Aled Hughes yn ei holi am ei hanes e’n dysgu’r Gymraeg.
Er gwaetha - In spite of
Bodoli - To exist
Ar hap - By chance Cymeriad - Character
Mae’n deg dweud - It’s fair to say
Newid cyfeiriad - To change direction
Yn falch - Pleased
Cymuned - Community
Trafod - To discuss
Aled Hughes …a dyma i chi glip arall o Kai. Drwy gydol Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg roedd Kai ar ein sioeau yn gyson er mwyn sgwrsio gyda dysgwyr eraill a rhoi’r teimlad i ni gyd sut beth yw dod at yr iaith o‘r newydd fel oedolyn. Un ferch gafodd ei holi oedd Shaun McGovern, sy’n dod o Washington DC yn wreiddiol ond sy erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Dyma i chi flas ar y sgwrs…
Chdi - Ti
Gwatsiad - Gwylio
Ffindir - Finland
Yn ddiweddar - Recently
Y rhan fwyaf - Most
Wedi cuddio - Hidden
Shan Cothi Eidalwr yn siarad yn Gymraeg gydag Americanes am eu profiadau’n dysgur iaith – gwych on’d ife? Gwestai Sian Cothi i ddathlu’r wythnos arbennig hon oedd Janet Tabor o Gastell-Nedd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd a dyma hi’n sôn am ei thaith yn dysgu’r iaith.
Caeredin - Edinburgh
Caint - Kent
Casgwent - Chepstow
Hwb - Boost
Dychmygu - Imagine
Gerallt Lloyd Janet Tabor oedd honna wedi cael blas ar y Gymraeg drwy fynd ar un o gyrsiau Gwent. Tiwtor Cymraeg oedd un o westeion Geraint Lloyd wythnos diwtha – Eilir Jones sydd yn dysgu yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae Eilir hefyd yn gomedïwr ac yn berfformiwr a dyma fe’n egluro wrth Geraint pam oedd e eisiau dod yn diwtor a sut cafodd e’r swydd …
Tyrd draw - Come over
Fesul awr - Hourly
Hyfforddiant - Training
Cymwysterau - Qualifications
Cyngor - Advice
Gwerthfawrogi - To appreciate
Cefnogaeth - Support
Yr Wyddgrug - Mold
Sara Yassine Eilir Jones oedd hwnna’n sôn am fywyd tiwtor Cymraeg. Mae Sara Yassine a’i thad Ali yn dod o Grangetown, Caerdydd ac mae’r ddau’n siarad Cymraeg. Mae eu teulu yn dod o’r Aifft ac o Somalia yn wreiddiol. Dyma Ali’n rhoi o ychydig o hanes y teulu ac wedyn Sara’n chwilio am hanes poblogaeth leiafrifol Caerdydd.
Yr Aifft - Egypt
Lleiafrif - Minority
Mwyafrif y disgyblion - The majority of the pupils
Ymgynghorydd Treftadaeth - Heritage Consultant
Bedyddio - To baptise
Cofnod - Record
Cafodd ei gaethiwo - Was enslaved
Eu cadw’n gaeth - Kept captive
Y Gymanwald - The Commonwealth
O dras Prydeinig - Of British heritage